Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Medi 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12434
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 13.10
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg:
Sian Gwenllian (Arfon): Pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i darfu difrifol ar addysg yn gynnar yn y tymor ysgol newydd yn sgil cynnydd yn yr achosion o COVID-19?
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.32
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am: dadorchuddio cerflun o Betty Campbell – pennaeth du cyntaf ysgol gynradd yng Nghymru, a hyrwyddodd ddiwylliant amlddiwylliannol ei chenedl drwy gydol ei hoes
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am: 75 Mlwyddiant Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent.
Gwnaeth Russell George ddatganiad am: Sefydliad Prydeinig y Galon a’i ymgyrch dros Anghydraddoldeb Rhywiol a Chlefyd y Galon.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.39 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7773 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;
b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.
2. Yn nodi ymhellach yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis;
b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru;
c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.
Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-22
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
14 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pasys COVID
Ni wnaed y cynnig.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7784 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu effaith economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren.
2. Yn gresynu at gynigion Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddiystyru cyflwyno tollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru;
b) hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd drwy gymryd camau fel:
i) cynyddu'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru;
ii) hyrwyddo teithio llesol ymhellach; a
iii) ymestyn tocynnau bws am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd yn:
1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7784 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd yn:
1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.55
NDM7785 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cyhoeddi adroddiad Holden - amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Hydref 2021